Newyddion

Hidlo Newyddion
Cofnodion 1 i 25 o 2676
  • Cymru'n symbylu cynnydd mewn cyfiawnder teuluol

    Dydd Mawrth, 22 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae cyfarfod cyntaf y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol yng Nghymru wedi ei gynnal heddiw.

  • Cyfle i’ch syniad da ddisgleirio!

    Dydd Llun, 21 Mai 2012, 1000 o Fywydau a Mwy
    Mae Shine, rhaglen arloesedd y Sefydliad Iechyd , yn gwahodd ceisiadau am gyllid hyd 17 Gorffennaf 2012 - mae dros £1 miliwn ar gael i gynorthwyo hyd at 18 o dimau gofal iechyd arloesol.

  • Gweinidog Iechyd yn Lansio Pecyn Gofal Iechyd y Geg

    Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio pecyn gofal a fydd yn safoni ac yn gwella iechyd y geg mewn ysbytai ym mhob cwr o Gymru.

  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn nodi Mis Ymwybyddiaeth o Strôc

    Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae mis Mai yn Fis Ymwybyddiaeth o Strôc, ac mae Tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn atgoffa trigolion y sir sut i adnabod arwyddion strôc.
     

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys

    Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys trwy amlygu gwaith rhai o’i staff.
     

  • Pobl leol yn dod yn hyrwyddwyr iechyd

    Dydd Gwener, 18 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae pobl leol yng Ngwent yn cael cyfle i fod yn hyrwyddwyr iechyd yn eu cymuned, diolch i gynllun newydd a lansiwyd yr wythnos hon.

  • Adborth gan gleifion i fesur safon y GIG yn y dyfodol

    Dydd Iau, 17 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal o’r radd flaenaf ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.

  • Staff yw’r allwedd i ddyfodol y GIG – Y Gweinidog Iechyd yn lansio fframwaith newydd ar gyfer y gweithlu

    Dydd Iau, 17 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    “Staff yw’r allwedd i lwyddiant y GIG,” Dyna eiriau Lesley Griffiths, y Gweinidog Iechyd, wrth iddi lansio “Gweithio’n Wahanol – Gweithio Law yn Llaw” – Fframwaith i Ddatblygu’r Gweithlu a’r Sefydliad ar gyfer GIG Cymru.

  • Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau

    Dydd Iau, 17 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Cafodd yr Archwiliad Beichiogi yn yr Arddegau ei roi ar waith ar draws gwasanaethau diwedd beichiogrwydd GIG Cymru fel rhan o brosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru.
     

  • Gweinidog yn croesawu ymgynghoriad ar labeli i helpu bwyta’n iach

    Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Heddiw, croesawodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, ymgynghoriad ledled y DU sydd â’r nod o’i gwneud yn haws i bobl ddewis bwydydd iach

  • Ehangu prosiect i roi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau

    Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae prosiect sy’n rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau ddod yn annibynnol yn ariannol wedi cael hwb gan Lywodraeth Cymru.

  • Lleihau achosion strôc yng Nghymru

    Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae cynllun newydd i sicrhau bod achosion strôc yng Nghymru gyda’r isaf yn Ewrop erbyn 2016 wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.

  • Gwasanaethau yng Nghymru yn dod ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’

    Dydd Mercher, 16 Mai 2012, Llywodraeth Cymru
    Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi lansio ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’, sef ymagwedd strategol Llywodraeth Cymru tuag at iechyd a lles meddwl.

  • Her Feicio’r Gweithle

    Dydd Mawrth, 15 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Mae her feicio wedi ei hanelu at weithleoedd a chymunedau yng Nghaerdydd, Abertawe, Gwynedd ac Ynys Môn yn cael ei threfnu ym mis Gorffennaf 2012.

  • Ymgynghori ar y Bil Teithio Llesol (Cymru)

    Dydd Mawrth, 15 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Ar ôl pum mlynedd o lobïo, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu papur gwyn ar Deithio Llesol sydd yn gofyn i awdurdodau lleol gynllunio a darparu ar gyfer rhwydwaith o deithiau cerdded a beicio, wedi eu hategu gan safonau cynllunio arfer gorau.

  • Canlyniadau arolwg o heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd

    Dydd Iau, 10 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau astudiaeth Ewropeaidd i gasglu data ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd, y defnydd o ddyfeisiau meddygol a’r defnydd o gyffuriau gwrthficrobaidd mewn ysbytai.
     

  • Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru

    Dydd Iau, 10 Mai 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Mae Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru wedi lansio eu tudalen newydd ar Facebook. Byddant yn rhoi’r newyddion a’r dolenni diweddaraf ar eu tudalen newydd i amlygu’r gwaith y maent yn ei wneud i hybu a gwella gofal iechyd meddwl ledled Cymru.

  • Seminar Heneiddio’n Egnïol 2012

    Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Cynhaliwyd y trydydd Seminar Heneiddio’n Egnïol yn Llundain ar 2 Mai 2012 wedi ei drefnu gan Rwydwaith VIDA.

  • Tyfu poblogaeth hŷn yng Nghymru

    Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd wedi bod yn archwilio a allai gweithgareddau corfforol a hamdden yn yr awyr agored roi mwy o fuddion iechyd yn nes ymlaen mewn bywyd o’i gymharu â gweithgareddau dan do.

  • Newid y Gêm, i Ferched

    Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Mae’r Mudiad Chwaraeon a Ffitrwydd i Ferched (WSFF) wedi llunio adroddiad (saesneg yn unig) sy’n nodi nad yw merched yn y DU yn gwneud digon o ymarfer corff – a bod yr ateb i annog merched i fod yn egnïol gydag ysgolion.

  • Seminar Ymchwil Gweithgaredd Corfforol

    Dydd Mercher, 9 Mai 2012, Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol A Maeth Cymru
    Mae Rhwydweithiau Gweithgaredd Corfforol a Maeth Cymru yn cynnal cyfres o Seminarau Ymchwil Gweithgaredd Corfforol sy’n archwilio’r materion yn ymwneud â’r ymchwil a’r sail dystiolaeth sy’n gysylltiedig â’r themâu allweddol a nodir yn Dringo’n Uwch a Chreu Cymru Egnïol.

  • Ymgynghori: Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Strategaeth y Llywodraeth gyfan ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Nghymru

    Dydd Mawrth, 8 Mai 2012, Rhwydwaith Hybu Iechyd Meddwl Cymru Gyfan
    Dechrau'r cyfnod ymgynghori: 08/05/2012
    Diwedd y cyfnod ymgynghori: 31/07/2012

  • Astudiaethau achos yn amlygu enghreifftiau o ofal sy’n cael ei lywio gan y claf a’r unigolyn o bob cwr o Gymru

    Dydd Mawrth, 8 Mai 2012, 1000 o Fywydau a Mwy
    Mae 1000 o Fywydau a Mwy yn lansio cyfres o astudiaethau achos yn dangos yr offer a’r technegau a ddefnyddir gan dimau ledled Cymru i sicrhau bod eu gwasanaethau’n canolbwyntio ar anghenion a dymuniadau cleifion a’u teuluoedd.

  • Achos o cryptosporidiosis yn cael ei ymchwilio mewn ysgol yng Nghaerdydd

    Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerdydd yn ymchwilio i sawl achos o salwch dolur rhydd ymysg disgyblion chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, Caerdydd.
     

  • Cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dydd Gwener, 4 Mai 2012, Iechyd Cyhoeddus Cymru
    Mae cynllun sydd yn nodi egwyddorion ymrwymiad y sefydliad i gydraddoldeb ac amrywiaeth wedi cael ei fabwysiadu.
     

Cofnodion 1 i 25 o 2676
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com