Gweinidog Iechyd yn agor yn swyddogol ward Niwro sy’n ganolfan ragoriaeth

Dydd Mawrth, 21 Chwefror 2012
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi agor Ward Niwrowyddorau Gofal Uchel newydd, sy’n rhan o Uned Niwrofeddygaeth gwerth £18 miliwn yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac fe’i lluniwyd i fod yn ganolfan rhagoriaeth.
Cynlluniwyd y ward newydd, sy’n darparu 18 o welyau, gan gynnwys 3 stafell sengl, i ddarparu amgylchedd tawel a llonydd i gleifion er mwyn eu helpu i wella.
Yn 2005, cyhoeddodd Comisiwn Iechyd Cymru’r Adolygiad Strategol o Wasanaethau Niwrowyddorau ar gyfer Cymru. Tynnodd yr Adolygiad sylw at bryderon ynghylch cynaliadwyedd dwy ganolfan niwrofeddygol yn y De, un yng Nghaerdydd a’r llall yn Abertawe.
Mewn ymateb i hyn gofynnodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Edwina Hart, i Grŵp Adolygu Annibynnol o dan arweiniad James Steers wneud gwaith pellach a nodi cyfeiriad Niwrowyddorau yn y dyfodol.
Cydnabu adroddiad Grŵp Adolygu Arbenigol Allanol Niwrowyddorau Cymru – Argymhellion ar gyfer y Canolbarth a’r De (Adroddiad Steers) fod safon gofal da’n cael ei ddarparu, ond bod lle i wella ac y dylai fod un gwasanaeth niwrofeddygol ar gyfer y De a’r Gorllewin.
Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion, gan gynnwys cryfhau ac ehangu capasiti llawdriniaethau’r asgwrn cefn sydd heb fod yn rhy gymhleth yn Ysbyty Treforys er mwyn darparu mynediad gwell yn lleol i gleifion y Canolbarth a’r Gorllewin.
Roedd hefyd yn argymell y dylid cyd-leoli llawdriniaethau cymhleth i’r asgwrn cefn a niwrofeddygaeth yr ymennydd o fewn uned fwy ar y safle yng Nghaerdydd.
Yn dilyn yr argymhellion hyn, daethpwyd o hyd i gyllid cyfalaf a fyddai’n adeiladu dwy theatr yn ogystal â llety atodol a datblygiad llety ar gyfer dwy ward, ac yn y wardiau byddai tair stafell â phedwar gwely ynddynt gydag en-suite; deg stafell sengl gydag en-suite, stafell dawel, desg/man gwaith i staff a storfa ar gyfer cyfarpar/llieiniau, gan wneud cyfanswm o 55 o welyau.
Gydag agor y ward newydd hon, mae’r holl wasanaethau niwrofeddygol a niwroleg i gleifion mewnol a chleifion dydd yn yr un lleoliad, ac yn agos i’r theatr a’r cyfleusterau gofal critigol; i greu gwelyau gofal critigol ychwanegol.
Hefyd darperir swyddfeydd newydd ar gyfer trosglwyddo Niwrolawfeddygon ymgynghorol o Ysbyty Treforys a chyfleusterau addysgu yn agos i’r theatrau niwrofeddygaeth penodedig, â chysylltiadau TG rhwng y stafell seminar a’r theatrau.
Ariannwyd yr holl ddatblygiadau o Raglen Cyfalaf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Gyfan. Cyfanswm y gost oedd £18,056 miliwn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths:
“Mae’n ward hon yn ben llanw i waith caled a chynllunio gofalus a bydd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer trin anafiadau i’r pen a’r gwddf, yn ogystal â gwneud ymchwil barhaol i’r Niwrowyddorau.”
Dywedodd Andrea Richards, Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Niwrowyddorau gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Mae’r cyfleusterau newydd a’r staff ychwanegol yn golygu y gallwn ddarparu gofal arbenigol rhagorol mewn amgylchedd a luniwyd at ein hanghenion penodol ni. Mae hefyd yn golygu y gallwn wella’r rheolaeth o heintiau, y gallwn sicrhau urddas a phreifatrwydd i gleifion a’n bod yn gallu darparu llety un rhyw.
“Mae’r buddsoddiad wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yma i bobl â chyflyrau difrifol iawn ledled Cymru.”
 
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com