Atal cam-drin plant yn rhywiol ar yr agenda wleidyddol

Dydd Gwener, 6 Awst 2010
Mae cyfle i drigolion Cymru osod atal cam-drin plant yn rhywiol ar yr agenda wleidyddol, diolch i ymgyrch newydd gan Stop it Now! Cymru.
Stop it Now! Cymru yw’r unig ymgyrch ledled y wlad sydd wedi’i neilltuo i atal cam-drin plant yn rhywiol. Ar 26 Gorffennaf, mae’n lansio ymgyrch newydd i bwyso ar bob plaid wleidyddol  i gynnwys amddiffyn plant rhag niwed rhywiol yn eu maniffestos arfaethedig, wrth iddynt baratoi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2011.

Mae’r ymgyrch, a elwir yn Ymrwymo i Atal! yn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd gyfrannu at yr ymgyrch trwy lofnodi deiseb, a lledaenu’r neges trwy eu rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn ogystal ag oddi ar lein trwy ddefnyddio posteri, llythyrau, taflenni ac ati.

Dywedodd Rheolwr Ymgyrch Genedlaethol Stop it Now! Cymru, Rebecca Wasinski: "Mae’n bwysig bod y pleidiau gwleidyddol yn cofio am bwysigrwydd atal cam-drin plant yn rhywiol wrth iddyn nhw baratoi maniffesto. Mae cam-drin rhywiol yn effeithio ar un ymhob chwech o blant cyn iddynt gyrraedd 16 oed, ac mae’n difrodi cymaint o fywydau. Mae’n hanfodol ein bod ni’n ymegnïo i atal y gamdriniaeth yma. Mae angen strategaeth genedlaethol Cymru-gyfan arnom ni i gynllunio a darparu gwasanaethau a fydd yn cyfrannu’n helaeth tuag at amddiffyn plant. Rydyn ni’n gwybod beth fydd yn helpu, ac mae angen i ni ddechrau darparu’r cymorth yma."

Yn anad dim, mae ymgyrch Ymrwymo i Atal yn galw am: 

* Ymgyrch genedlaethol i gynnig gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o raddfa cam-drin plant yn rhywiol, a’r camau y gall pob un ohonom eu cymryd i’w atal.
* Addysg i rieni a gofalwyr ynglŷn â sut helpu i atal cam-drin plant yn rhywiol, gan gynnwys magu gwytnwch yn y plant, cyfathrebu’n agored ac onest, a gosod a pharchu ffiniau ymddygiad.
* Addysg i blant a phobl ifanc mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid ynglŷn â pharch mewn perthnasau, ffiniau ymddygiad rhywiol, caniatâd a chyffwrdd priodol.
* Hyfforddiant penodol ar atal cam-drin plant yn rhywiol i’r rheiny sy’n gweithio gyda phlant a’u teuluoedd, gan gynnwys sut i adnabod arwyddion cam-drin plant yn rhywiol ac ymateb i’r sefyllfa.
* Gwasanaethau therapiwtig i blant a’u teuluoedd sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol .
* Gwasanaethau ymyrrol  i oedolion a phobl ifanc â meddyliau neu ymddygiad sy’n destun pryder mewn cysylltiad â phlant.

 Gall pleidleiswyr ddarganfod mwy ac ymgysylltu â’r ymgyrch trwy fynd i www.stopitnow.org.uk neu ffonio Rebecca Wasinski ar 07989 378220.
Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com