Ivar Grey

 
Mae Ivar yn Gyfrifydd Siartredig ac roedd yn bartner yn KPMG hyd nes iddo ymddeol yn 2002. Ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Anweithredol Cyllid Cymru PLC, yn aelod o'r Comisiwn Cystadleuaeth, yn llywodraethwr ac ymddiriedolwr Ysgol Port Regis, yn gyfarwyddwr Plant yn y Canol, cwmni sydd â diddordeb cymunedol mewn hyrwyddo cysylltiadau teuluol, yn cynghori busnesau amrywiol a hefyd yn gweithredu fel tyst arbenigol mewn materion ariannol.
 
Mae swyddi blaenorol Ivar hefyd yn cynnwys gweithredu fel ymgynghorydd ariannol i Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru 2002-2004 ac fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac yn olaf Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gofal Iechyd Gwent  2006-2009. Fe sy’n arwain yn anweithredol ar gyllid ar Fwrdd BIP Caerdydd a'r Fro.

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26 Mawrth 2012