Gweithio i ni

 
I gael rhestr o swyddi gwag Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro ewch i NHS Jobs
 
Mae llawer o wybodaeth ar gael i bobl sydd â diddordeb mewn gwneud profiad gwaith.
 
Yn yr ysbryd o hyrwyddo hyblygrwydd a chydbwysedd bywyd a gwaith, mae gennym lawer o bolisïau a gynlluniwyd i helpu anghenion gweithlu sydd yn newid. Am ragor o wybodaeth, gweler ein hadran Cyfeillgarwch i Deuluoedd.
 
Am  amrywiaeth o wybodaeth ar fudd-daliadau, gan gynnwys pensiynau, cynllun disgownt staff, iechyd galwedigaethol, dysgu a chyfleoedd datblygu, gweler ein hadran Budd-daliadau

Mae'r adran Ardal Leol  yn darparu gwybodaeth am brifddinas Caerdydd a'r ardal gyfagos. 
  


Gweithio i Ni

Mae'n bwysig i'r BIP bod ein holl staff yn hapus gyda’u trefniadau gweithio oherwydd eu bod yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol. Mae'r holl staff yn awyddus i weithio mewn sefydliad lle maent yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau ac arbenigedd.
 
Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi datblygu ystod eang o fudd-daliadau a chyfleusterau fydd yn sicrhau bod ein staff yn cael y mwyaf allan o'u hamser gyda ni. 
  

Siarter Staff

Mae'r BIP yn cynnwys Siarter Staff i sicrhau bod ein staff yn gallu darparu gofal i gleifion mewn awyrgylch gwaith diogel. Mae'n tanlinellu rhai o werthoedd pwysig sydd yn rhan o fod yn sefydliad y byddai pawb yn awyddus i weithio iddo.
  
Yn seiliedig ar yr egwyddor o Dim Goddefgarwch, mae'n gosod disgwyliadau a safonau o ymddygiad ac ymarfer ar gyfer yr unigolyn ac ar y BIP ac yn darparu cyngor defnyddiol ac ymarferol ar sut i ymdrin yn gadarnhaol â digwyddiadau o drais ac ymddygiad ymosodol.
  
 
Gweithio mewn Partneriaeth

 
Allweddol i lwyddiant y BIP yw ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth, nid yn unig gyda Staff y BIP a cynrychiolwyr Undeb, ond hefyd gyda Byrddau Iechyd Lleol cyfagos, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau eraill, gan chwilio am ffyrdd newydd a gwell i fodloni anghenion iechyd y gymuned ehangach.
 
 
Iechyd yn y Gweithle
 
Ym mis Gorffennaf 2003, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth derbyn Gwobr Arian y  Safon Iechyd Corfforaethol am eu safon a’u gwaith yn hyrwyddo lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol staff. Yr ydym yn awr yn gweithio tuag at y Wobr Aur. Rydym yn credu bod gweithle iachus yn annog pobl i fyw yn iach, ac mae cydbwysedd bywyd gwaith yn well ar gyfer unigolion.
 
 
Urddas yn y Gweithle
Mae'r BIP yn cydnabod hawl pob unigolyn i gael eu trin ag urddas a pharch ym mhob agwedd o’u bywyd, gan gynnwys yr amser a dreulir yn y gwaith. Mae ein Polisi a Cynllun Urddas yn y Gweithle sy'n anelu at gynnal awyrgylch gweithio rhydd o erledigaeth, bwlio ac aflonyddu, ac i ddarparu cymorth i ddioddefwyr.

Rhannu:  Share this page on Twitter  Share this page in Facebook  Save this page in delicious  Digg this page.  Save this page in LinkedIn  Stumble this page.  Save this page in reddit.com   
Wedi ei ddiweddaru ddiwetha': 26 Mawrth 2012