Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw un o’r cyrff mwyaf GIG yn DU. Rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd o ddydd i ddydd i poblogaeth o tua 445,000 o bobl sydd yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sydd angen triniaeth ysbyty brys ac trefnedig a gofal iechyd meddwl, yn ogystal â darparu gofal yng ngartrefi pobl eu hunain a chlinigau gymuned.
Rydym hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, gan cynnwys meddygon teulu, fferyllwyr Cymunedol, deintyddion a optometryddion.
Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws De a Chanolbarth Cymru ar gyfer arbenigeddau megis gofal dwys paedetrig, gwasanaethau arbenigol i blant, gwasanethau arennol, gwasanaethau cardiaidd, niwroleg, trawsblannu mêr yr esgyrn a geneteg feddygol.
Bwrdd iechyd addysgu ydym gyda chysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Brifysgol yn ymfalchïo ym mhroffil uchel ei haddysgu a’i hymchwil a’i gwaith datblygu o fewn y DU a thramor. Gyda’n gilydd rydym yn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol meddygol.
Rydym yn rheoli naw ysybyty a dwy a’r bymtheg o ganolfannau iechyd, a hefyd yn darparu gwasanaethau mewn canolfannau iechyd a gynhelir gan ein sefydliadau partner GIG o fewn Caerdydd a’r Fro a thu hwnt, yng Nghaerfilli a Merthyr er enghraifft. Naw ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw; Ysbyty Barri, Adain Gorllewin Ysbyty Brenhinol Caerdydd, Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Rookwood, Ysbyty Dewi Sant, Ysbyty Athrofaol Deintyddol, Ysbyty Athrofaol Cymru a Ysbyty Eglwysnewydd.
Incwm y Bwrdd Iechyd Prifysgol ar gyfer 2009/10 fydd tua £940 million.
Os hoffech fynychu un o’r cyrfafodydd misol y Bwrdd neu darllen manylion am yr hyn sy’n cael ei drafod, ewch i adran y Bwrdd.